
Rydym yn gwmni ymchwil cymdeithasol ac economaidd sy'n eiddo i'w weithwyr ac sydd wedi bod yn gweithio ledled y DU ers dros 25 mlynedd.
Yr ydym yn helpu sefydliadau i wneud penderfyniadau gwell:
penderfyniadau sydd yn seiliedig ar ymchwil o safon, tystiolaeth ddibynadwy a rhesymeg glir.
Mae ein gwasanaethau yn helpu ein cleientiaid yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i:
Ymchwilio, cynllunio a dylunio beth i'w wneud
.png)
Adolygu llenyddiaeth, datblygu strategaeth, datblygu prosiectau, ymgynghoriadau, astudiaethau dichonoldeb
Casglu adborth, dysgu a gwella
.png)
Gwerthuso, dadansoddi data, arolygon, grwpiau ffocws, asesiadau effaith gymdeithasol ac economaidd
Sefydlwyd Wavehill yn 1992 mewn ymateb i alw cynyddol am wasanaethau monitro a gwerthuso annibynnol. Deilliodd yr enw o ddiddordeb brwd y sylfaenwyr mewn hwylio a heicio.
Yn 2020, daeth Wavehill yn fusnes sydd yn eiddo i'w weithwyr.
Heddiw, mae gan y cwmni dros 20 o staff a chymdeithion â swyddfeydd yn Aberaeron ar arfordir gorllewinol Cymru, Bryste, Newcastle a Llundain.


Ein Tîm
Mae gennym dîm proffesiynol cryf ac wedi'i sefydlu'n dda o ymchwilwyr ac ymgynghorwyr. Mae ein tîm yn cyfuno sgiliau technegol cryf â phrofiad proffesiynol ym maes ymchwil, gwerthuso a rheoli a chyflawni prosiectau a rhaglenni a ariennir yn gyhoeddus.
Meysydd Arbenigedd
Rydym yn cynnig arbenigedd mewn amrywiaeth o feysydd ar draws ymchwil economaidd a chymdeithasol.
Y Celfyddydau a Diwydiannau Creadigol
Gweithgarwch corfforol/segurdod